…ac ’roedd yno freuddwyd / …and there was a dream

'…and there was a dream' by Dafydd Jones

A view of the Welsh countryside. | Photo: Jules Montgomery.

…ac ’roedd yno freuddwyd

’Roedd yno freuddwyd, yn llechu
rhwng plygiadau tawelwch y cyrddau;
dyhead am gael adnabod Cyfeillion o
bedwar ban, dyhead am gael cyfrannu, fel Cyfeillion,
i fywyd ein darn tir. Am gael gwneud hynny
pe mynnem yn ein hiaith ein hunain. Am gael
adnabod ein gilydd mewn gwir adnabod.

Ac yna caed tynerwch awelon, diflannodd
yr anesmwythyd o blygiadau’r addoliad, cawsom
adnabod ein gilydd yn undod ein Cyfarfod, adnabod ein
gilydd fel Cyfeillion yng Nghymru.

You need to login to read subscriber-only content and/or comment on articles.